Dywedodd Llyr Gruffydd, AC Plaid Cymru ar gyfer Gogledd Cymru:
"Gall benderfyniad Llywodraeth y DU i ymestyn trwyddedu ar gyfer hollti hydrolig - ffracio - ar gyfer nwy siâl a methan gwely glo effeithio ar tua 2/3 o gartrefi Cymru."Dywedodd Mr Gruffydd, o Bentrecelyn:
"Bydd llawer o bobl sy'n byw yn Sir Ddinbych yn cael eu heffeithio gan y datblygiad yma.Ychwanegodd Marc Jones, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholiad San Steffan y flwyddyn nesaf:
“Bydd caniatáu ffracio dan ein cartrefi yn golygu y gallai gweithfeydd nwy godi o fewn ychydig gannoedd o fetrau o gartrefi pobl ac bydd drilio yn digwydd yn uniongyrchol dan eu cartrefi.
"Mae ffracio yn golygu pwmpio coctel o gemegau, rhai ohonynt yn achosi cancr, hyd at 3000 metr o dan y ddaear i dorri’r graig a rhyddhau nwy.
"Mae’n golygu gwastraffu miliynau o alwyni o ddwr mewn proses sydd â'r potensial i lygru cyflenwadau dwr tanddaearol. Dyna pam y mae Plaid Cymru wedi galw am roi stop ar y dull hen-ffasiwn yma o gloddio am danwyddau ffosil.
"Os ydan ni o ddifrif am ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer ein plant, yn ogystal ag osgoi achosi daeargrynfeydd a llygredd, mae'n rhaid i ni wrthod ffracio a chreu Cymru wyrddach sydd hefyd yn creu gwaith ac ynni glân.
“Mae gan Gymru botensial enfawr i ddatblygu swyddi a'r economi trwy ynni adnewyddadwy glân - boed yn haul, hydro a morlynnoedd - yn hytrach na ffracio."
"Mae ffracio wedi'i wahardd mewn rhannau o Awstralia, Ffrainc, yr Almaen a'r Iseldiroedd. Mae Llywodraeth y DU yn brysur yn pasio deddfau i alluogi gorfforaethau i ddrilio o dan ein cartrefi heb ein caniatâd. Rydan ni angen llais cryf yn lleol i wrthwynebu’r cynlluniau newydd yma.”• Arwyddwch y ddeiseb yma i wrthwynebu ffracio yn Sir Ddinbych:
• Trefi a phentrefi yr effeithir arnynt gan y trwyddedu newydd: Y Rhyl, Bodelwyddan, Rhuddlan, Bodfari, Llanelwy, Trefnant, Llandyrnog, Rhuthun, Llanferres, Llandegla, Llanarmon, Llangollen
No comments:
Post a Comment